Claude François | |
---|---|
Ffugenw | Cloclo, Claudio |
Ganwyd | Claude Antoine Marie François 1 Chwefror 1939 Ismailia |
Bu farw | 11 Mawrth 1978 o trydanladdiad 16ain bwrdeistref Paris |
Label recordio | Fontana Records, Philips Records, Disques Flèche, Phonogram Records, Carrère Records |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr, swyddog gweithredol cerddoriaeth, ffotograffydd, actor, canwr-gyfansoddwr, dawnsiwr, artist recordio, cyfansoddwr |
Arddull | yé-yé, chanson, disgo, cerddoriaeth boblogaidd, ballade |
Priod | Janet Woollacott |
Partner | France Gall, Annie Philippe, Isabelle Forêt |
Plant | Claude François Jr., Marc François, Julie Bocquet |
Gwefan | http://www.claudefrancois.fr |
Canwr pop o Ffrainc oedd Claude François (llysenw Cloclo) (1 Chwefror 1939 – 11 Mawrth 1978). Ganwyd yn Ismaïlia, yn yr Aifft. Bu farw yn ddamweiniol ym Mharis wrth gyffwrdd lamp drydan ddiffygol pan oedd e yn y bath. Ffrancwr oedd ei dad; rheolwr ar gamlas Suez. Roedd ei fam o Galabria yn yr Eidal.
Dysgodd Claude chwarae'r piano, y ffidil a'r drymau ac fe aeth i Monte-Carlo i chwarae'r drymau mewn band jazz. Yn 1960 fe aeth e i Baris ar ôl ei gynghori gan Brigitte Bardot a Sacha Distel.
Yn 1967 fe ysgrifennodd "Comme d'habitude" gyda Jaques Revaux a Gilles Thibaut. Pan glywodd Frank Sinatra y gân, fe ofynnodd i David Bowie os oedd e'n gallu cyfieithu'r gân i Saesneg. Dywedodd Bowie fod e'n medru gwneud ond dydy'r geiriau ddim yn dda iawn. Fe ysgrifennodd Paul Anka eiriau newydd "My Way" i'r gân.