Harri Morgan

Harri Morgan
Ganwyd24 Ionawr 1631 Edit this on Wikidata
Llanrhymni Edit this on Wikidata
Bu farw25 Awst 1688 Edit this on Wikidata
o llid y ffroenau, sirosis Edit this on Wikidata
Port Maria La luz Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr, Cymru Edit this on Wikidata
Galwedigaethfilibuster, môr-leidr, masnachwr caethweision, Herwlongwriaeth, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddIs-lywodraethwr Jamaica, Is-lywodraethwr Jamaica, Is-lywodraethwr Jamaica Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Faglor Edit this on Wikidata

Preifatîr a môr-leidr Cymreig oedd Syr Harri Morgan (tua 163525 Awst 1688), a adnabyddir hefyd fel Henry Morgan. Daeth yn adnabyddus drwy'r byd am ymosod yn ddidrugaredd ar y Sbaenwyr yn y Caribî.

Bywgraffiad

[golygu | golygu cod]

Mae'n debyg y ganwyd ef yn Llanrhymni, Morgannwg ger Caerdydd, neu ym Mhencarn, Sir Fynwy, ond gwyddem i sicrwyd fod ei deulu'n Gymry. Mab hynaf Robert Morgan yswain o Llanrhymni yn Sir Fynwy ydoedd, er bod rhai yn honni iddo ddod o'r Fenni. Mae llawer o chwedlau am ei fywyd ac mae'r ffeithiau am ei fywyd yn ansicr, ond gwyddys y bu'n fôr-leidr. Roedd awdurdodiad llywodraeth Lloegr (Letter of Marque) ganddo yn ei awdurdod i weithredu fel preifatîr ac fe'i gefnogwyd gan lywodraeth Lloegr yn ei ryfelgyrch yn erbyn Sbaen. Cyrhaeddodd ynys Barbados ym 1655 ar alldaith y danfonodd Oliver Cromwell ef arni i India'r Gorllewin. Yn Barbados, priododd Mary Elizabeth, merch ei ewythr Edward a oedd yn Is-Lywodraethwr yr ynys ar y pryd. Ni chawsant blant.[1][2]

Mae'r hanesydd a chyd-oeswr Exquemelin yn dweud ei fod e'n gaethwas (indentured servant) yn Barbados ond wrth ystyried ei gysylltiadau teuluol mae'n annhebyg iawn. Daeth Morgan i Jamaica yn 1658. Roedd e'n nai i Edward Morgan, Llywodraethwr Cyffredinol Jamaica a phriododd ei gefnder Mary. Y fo oedd y "Captain Morgan" ac ymunodd â llynges Christopher Myngs yn 1663.

Ers 1663 bu'n hwylio ar hyd arfordir Mecsico, Cuba a Phanama - o dan capten arall ar y dechrau ond wedyn yn gapten ei hun - ac yn ymosod a chipio trefi Sbaeneg. Mae'n enwog am arwain criw o fycaniriaid y Môr Caribî a dianc rhag môr-warchae Maracaibo a osodwyd gan longau rhyfel Sbaen ar ôl brwydr rhwng yr Oxford, llong ryfel o Loegr a Le Cerf Volant, preifatîr o Ffrainc ym 1669. Cipiodd ddinas Portobelo, Panama yn 1668, gyda llynges a byddin o tua 450 o filwyr, a threuliodd ei wŷr 14 diwrnod yn ysbeilio'r ddinas.

Dechreuodd ei ymgyrch enwog yn erbyn Panama, dinas cyfoethocaf India'r Gorllewin, ym 1670. Hwyliodd yno'n arwain mintai mewn 36 llong. Bu'n rhaid iddynt gerdded dros y mynyddoedd a thrwy jyngl er mwyn cyrraedd y ddinas a oedd ar arfordir y Môr Tawel, yn hytrach na'r Môr Caribî. Llwyddodd i gipio'r dref a'i losgi, a dychwelyd ag aur, arian a gemau a channoedd o gaethweision.

Lithograff o Henry Morgan gan artist anhysbys (1842)

Harri Morgan a Cuba

[golygu | golygu cod]

Yn 1667, cafodd gomisiwn gan Modyford iddo ysbeilio arfordir deheuol Cuba ac i ddal ysbeinwyr fel gwystlon o Cuba i amddiffyn Jamaica. Cyrhaeddodd Cuba a 10 llong a 500 dyn, cymerodd ac ysbeiliodd Morgan y ddinas o Puerto Principe Camaguey. Roedd y cynllun gwreiddiol i ymosod ar Hafana ond roedd hyn yn ormod. Gyrrodd stormydd ei llongau i'r lan yn y De, a dihangodd un o'r gwystlon, felly cafodd dinasyddion Puerto Principe amser i ddianc efo'u trysor. Enillodd ddim ond 50,000 o ddarnau wyth. Aethon nhw ymlaen i ysbeilio tref cyfoethocaf y Caribi wedyn sef Porto Bello a chasglu 200,000 o ddarnau wyth.

Marwolaeth

[golygu | golygu cod]

Yn y cyfamser roedd Lloegr a Sbaen wedi arwyddo cytundeb heddwch ac oherwydd yr ymosodiad ar Panama fe gafodd ei arestio a'i gludo i Loegr ym 1672. Ond yno newidiodd ei ffawd eto a daeth yn Syr Harri Morgan ym 1674. Dychwelodd i Jamaica y flwyddyn ganlynol i fod yn Is-Lywodraethwr yr ynys, lle y bu farw ar 25 Awst, 1688 a'i gladdu yn Palisadoes - tref a ddiflanodd dan y môr wedi daeargryn 1692.

Wedi 1683 cyhoeddodd Alexandre Exquemelin, ei gyn lawfeddyg, ei lyfr De Americaensche Zee-Roovers (Hanes Morwyr America). Y llyfr lliwgar hwn sy wedi sicrhau ei enw boblogrwydd fel môr-leidr hyd heddiw.[3]

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • Terry Breverton, The Book of Welsh Pirates and Buccaneers (2003, Glyndwr Publishing)
  • Cordingley, David (1995). Life Among the Pirates. London: Abacus. ISBN 0-349-11314-9
  • Stephen Tatly. Empire of Blue Water: Henry Morgan and the Pirates Who Rule the Caribbean Waves

Ffilm, teledu a chyfeiriadau eraill

[golygu | golygu cod]

Seilir ffilm 1935 Captain Blood, gyda Errol Flynn, ar fywyd Morgan ac roedd yn gymeriad yn y ffilmiau The Black Swan, Forever Amber, Blackbeard the Pirate, Morgan, the Pirate a Pirates of Tortuga. Ceir cerddi, llyfrau, caneuon, gemau fideo a ffilmiau amdano erbyn hyn.

Yn 2006, cyflwynodd The History Channel raglen ddogfen True Caribbean Pirates, amdano.

Mae'r rym "Captain Morgan" yn caelei werthu drwy'r byd, ac yn rhif saith ymhlith diodydd cadarn.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Stockton, Frank Richard (2006) [1898]. Buccaneers and Pirates of Our Coasts. Echo Library. t. 59. ISBN 1-4068-3064-X. Cyrchwyd 8 Gorffennaf 2011.
  2. Cordingly, David (1996). Under the Black Flag. Random House. tt. 42–55. ISBN 0-15-600549-2.[dolen farw]
  3. "Henry Morgan: the Pirate King". Jamaica-gleaner.com. 2002-12-09. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-09-17. Cyrchwyd 2012-11-17.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]