Instituto Cervantes de Varsovia, Instituto Cervantes de Cracovia, Instituto Cervantes Tokio, Instituto Cervantes, Berlin, Instituto Cervantes de Budapest, Instituto Cervantes de Salvador de Bahía, Instituto Cervantes of Manila, Biblioteca María Zambrano. Instituto Cervantes di Roma, Instituto Cervantes de Pekin, Instituto Cervantes de Shanghai, Instituto Cervantes Praga
Rhiant sefydliad
Secretariat of State for International Cooperation
Mae Instituto Cervantes (;Sefydliad Cervantes;) yn sefydliad dielw byd-eang a grëwyd gan lywodraeth Sbaen yn 1991.[1] Fe'i enwir ar ôl Miguel de Cervantes (1547-1616), awdur Don Quixote ac efallai'r ffigwr pwysicaf yn hanes llenyddiaeth Sbaeneg. Sefydliad Cervantes yw'r sefydliad mwyaf yn y byd sy'n gyfrifol am hyrwyddo astudio a dysgu iaith a diwylliant Sbaeneg. Mae'r sefydliad yn aelod o'r European Union National Institutes for Culture.
Ni cheir cangen o'r sefydliad yng Nghymru. Mae'r canghennau Prydeinig yn Llundain, Leeds a Manceinion.
Mae'r sefydliad hwn wedi ehangu i 45 o wledydd gyda 88 o ganolfannau wedi'u neilltuo i ddiwylliant Sbaenaidd ac America Sbaenaidd ac iaith Sbaeneg.[2] Creodd Erthygl 3 o Gyfraith 7/1991, ar 21 Mawrth1991, yr Instituto Cervantes fel asiantaeth y llywodraeth. Mae'r gyfraith yn egluro mai nodau eithaf y Sefydliad yw hyrwyddo addysg, astudio a defnyddio Sbaeneg yn gyffredinol fel ail iaith; cefnogi'r dulliau a'r gweithgareddau a fyddai'n helpu'r broses o addysg Sbaeneg, a chyfrannu at hyrwyddo diwylliannau Sbaenaidd ac America Sbaenaidd ar draws gwledydd di-Sbaeneg.[3][4]
Logo yr Istituto gydag argraffiad o'r diacritig nodweddiadol i'r orgraff Sbaeneg, y tilde
Swyddogaethau a gwasanaethau Sefydliad Cervantes yw:
Cynllunio cyrsiau iaith Sbaeneg, gan gynnig dau fath o gwrs: cyffredinol ac arbennig.
Cynnig arholiadau Diplomâu Sbaeneg fel Iaith Dramor (DELE) ar ran Gweinyddiaeth Addysg Sbaen. Mae hwn yn gymhwyster swyddogol sy'n ardystio lefelau cymhwysedd yn yr iaith Sbaeneg, a dyma'r unig dystysgrif ar gyfer siaradwyr Sbaeneg anfrodorol sy'n cael ei chydnabod yn swyddogol yn Sbaen. Rhennir y diplomâu yn chwe lefel, pob un yn cyfateb i lefel hyfedredd arbennig fel y disgrifir gan y Fframwaith Cyfeirio Ewropeaidd Cyffredin ar gyfer Ieithoedd: A1, A2, B1, B2, C1, C2.
Gwella dulliau addysg Sbaeneg.
Amgylchedd dysgu Sbaeneg ar-lein Ex) AVE (Aula Virtual de Español)[5]
Creu amgylchedd cymdeithasol, diwylliannol ac addysgol ym mhob canolfan[5]
Cynllun myfyriwr-ganolog, yn canolbwyntio ar y deialogau rhwng athro a myfyriwr ynghylch amcanion a chynnwys[5]
Mae'n cefnogi Sbaenwyr a "Hispaniaeth", sef yr astudiaeth o ddiwylliant Sbaen ac America Sbaenaidd.
Noddi darlithoedd, cyflwyniadau llyfrau, cyngherddau, arddangosfeydd celf, Gŵyl Ffilm Sbaen a Gŵyl Fflamenco. Cefnogir gan sefydliadau a chymunedau eraill.[2]
Trefnu ac yn hyrwyddo'r rhaglen i ledaenu'r iaith Sbaeneg ledled y byd.
Gweithio gyda radio a theledu cenedlaethol Sbaen i ddarparu cyrsiau iaith Sbaeneg.[5]
Cyhoeddiadau, llyfryddiaethau ar-lein, daliadau llyfrgell, cynnal cynadleddau mawr ar gyflwr yr iaith Sbaeneg.[5]
Mae'n gweinyddu'r arholiadau Gwybodaeth Gyfansoddiadol a Chymdeithasol o Sbaen (CCSE) ledled y byd, sy'n ofyniad cyfreithiol ar gyfer caffael cenedligrwydd Sbaenaidd.
Mae'n sefydlu llyfrgelloedd a chanolfannau.
Mae hefyd yn cyhoeddi'r Anuario del español i ddadansoddi ac adrodd ar sefyllfa a datblygiad yr iaith Sbaeneg mewn gwahanol leoedd.
Mae'n cefnogi'r Centro Virtual Cervantes ar y rhyngrwyd ers 1997.
Y Diploma Iaith Sbaeneg, DELE, yw'r dystysgrif swyddogol gyda chydnabyddiaeth ryngwladol sy'n ardystio gwybodaeth o Sbaeneg fel iaith dramor. Fe'i cyhoeddir gan yr Instituto Cervantes ar ran Gweinyddiaeth Addysg Sbaen.
Gwlad Groeg (Athens) – agorwyd yr Institute Cervantes Institute gyntaf yn Anthen 1992; ym mis Mawrth 2010, agorodd y Breninines Sofía o Sbaen yr adeilad newydd.
Mae Instituto Cervantes yn debyg i sawl sefydliad gan genedl wladwriaethau eraill er mwyn hyrwyddo diwylliant, iaith a buddion eu gwledydd. Y Basgwyr (gydag Etxepare Euskal Institutua ) a'r Catalaniaid (gyda Institut Ramon Llull) yw'r unig ddau genedl ddi-wladwriaeth sydd â sefydliad mor soffistigedig a strategol. Hyd yma, nid yw Cymru wedi gweld yn dda i sefydlu asiantaeth debyg.