Pulaski, Tennessee

Pulaski
Mathdinas yn yr Unol Daleithiau Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlCasimir Pulaski Edit this on Wikidata
Poblogaeth8,397 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1809 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethJ.J. Brindley Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner UDA UDA
Arwynebedd18.703556 km², 18.68708 km² Edit this on Wikidata
TalaithTennessee
Uwch y môr213 ±1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau35.1958°N 87.0344°W Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethJ.J. Brindley Edit this on Wikidata
Map

Tref yn Giles County, yn nhalaith Tennessee, Unol Daleithiau America yw Pulaski, Tennessee. Cafodd ei henwi ar ôl Casimir Pulaski, ac fe'i sefydlwyd ym 1809.


Poblogaeth ac arwynebedd

[golygu | golygu cod]

Mae ganddi arwynebedd o 18.703556 cilometr sgwâr, 18.68708 cilometr sgwâr (1 Ebrill 2010) ac ar ei huchaf mae'n 213 metr yn uwch na lefel y môr. Yn ôl cyfrifiad y wlad, poblogaeth y dref yw: 8,397 (1 Ebrill 2020)[1]; mewn cymhariaeth, yn 2016 roedd poblogaeth Caerdydd yn 361,462 a Rhyl tua 26,000.[2]

Lleoliad Pulaski, Tennessee
o fewn Giles County

Yn ystod Rhyfel Cartref America, roedd cyffiniau Pulaski yn safle nifer o ysgarmesoedd yn ystod Ymgyrch Franklin-Nashville. Meddiannodd milwyr yr undeb y dalaith o 1862. Ym 1863, crogwyd y negesydd Cydffederal, Sam Davis, yn Pulaski gan Fyddin yr Undeb ar amheuaeth o ysbïo.

Ddiwedd 1865, yn ystod dyddiau cynnar y Cyfnod Ailadeiladu, y ddinas oedd safle sefydlu'r Ku Klux Klan (KKK) cyntaf gan chwe chyn-filwr Tennessee o'r Fyddin Cydffederal. Sefydlodd John C. Lester, John B. Kennedy, James R. Crowe, Frank O. McCord, Richard R. Reed, a J. Calvin Jones y KKK yn Pulaski ar Ragfyr 25, 1865, gan greu rheolau ar gyfer cymdeithas gyfrinachol i bobl croenwyn. [3]

Roedd y gwrthryfelwyr gwyn yn benderfynol o gynnal goruchafiaeth pobl gwyn eu croen ac ymladd yn gyfrinachol yn erbyn cynnydd gwleidyddol cyn gaethion â'r bobl wen oedd yn cydymdeimlo â hwy. Trefnwyd pennod o'r KKK yn gyflym mewn rhannau eraill o'r wladwriaeth a'r De. Byddai aelodau KKK yn aml yn ymosod ar eu dioddefwyr yn ystod y nos, er mwyn cynyddu braw eu bygythiadau ac ymosodiadau. Digwyddodd digwyddiadau eraill o drais hiliol yn erbyn pobl dduon hefyd. Terfysg hiliol oedd terfysg Pulaski a gychwynnwyd gan gwynion yn erbyn pobl dduon, a ddigwyddodd yn Pulaski yng ngaeaf 1868.

Sefydlwyd Coleg Methodistaidd Martin yn Pulaski ym 1870.

Pobl nodedig

[golygu | golygu cod]

Ceir nifer o bobl nodedig a anwyd yn Pulaski, gan gynnwys:

Rhestr Wicidata:

Diweddarwch y rhestr nawr | WQS | Chwiliwch am ddelweddau


enw delwedd galwedigaeth man geni Bl geni Bl marw
Samuel St. George Rogers
gwleidydd
cyfreithiwr
barnwr
Pulaski 1832 1880
Rivers H. Buford
barnwr
gwleidydd
Pulaski 1878 1959
Wilson Collins
chwaraewr pêl fas[4]
chwaraewr pêl-droed Americanaidd
Pulaski 1889 1941
Walter Herschel Beech
entrepreneur
hedfanwr
Pulaski 1891 1950
Hunter Lane
chwaraewr pêl fas[5] Pulaski 1900 1994
Ross Bass
gwleidydd Pulaski 1918 1993
Lindsey Nelson
cyflwynydd chwaraeon Pulaski 1919 1995
Julia Smith Gibbons
cyfreithiwr
barnwr
Pulaski 1950
Tyler Smith chwaraewr pêl-fasged[6][7] Pulaski 1986
Bo Wallace chwaraewr pêl-droed Americanaidd[8] Pulaski 1992
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. https://data.census.gov/cedsci/table?t=Populations%20and%20People&g=0100000US,%241600000&y=2020. Cyfrifiad yr Unol Daleithiau 2020. golygydd: Biwro Cyfrifiad yr Unol Daleithiau. dyddiad cyrchiad: 1 Ionawr 2022.
  2. statswales.gov.wales; adalwyd 25 Mawrth 2020.
  3. Fleming, Walter J., Ku Klux Klan: Its Origins, Growth and Disbandment, tudalen. 27, 1905, Neale Publishing
  4. Baseball Reference
  5. The Baseball Cube
  6. RealGM
  7. https://www.easycredit-bbl.de/spieler/4f07333b-832e-4fba-b09f-f27018e59fe6
  8. Pro Football Reference