Thomas Brassey

Thomas Brassey
Ganwyd7 Tachwedd 1805 Edit this on Wikidata
Buerton Edit this on Wikidata
Bu farw8 Rhagfyr 1870 Edit this on Wikidata
o gwaedlif ar yr ymennydd Edit this on Wikidata
St Leonards Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ysgol y Brenin, Caer Edit this on Wikidata
Galwedigaethpensaer, peiriannydd, person busnes, peiriannydd sifil, peiriannydd rheilffyrdd Edit this on Wikidata
TadJohn Brassey Edit this on Wikidata
MamElizabeth Perceval Edit this on Wikidata
PriodMaria Farringdon Harrison Edit this on Wikidata
PlantAlbert Brassey, Thomas Brassey, iarll 1af Brassey, Henry Brassey, John Brassey Edit this on Wikidata
Thomas Brassey

Roedd Thomas Brassey (7 Tachwedd 18058 Rhagfyr 1870) yn beiriannydd sifil a chynhyrchydd nwyddau adeiladu, oedd yn gyfrifol am adeiladu rhan helaeth rheilffyrdd y byd yn ystod y 19eg ganrif. Erbyn 1847 roedd o wedi adeiladu tua threan y rheilffyrdd ym Mhrydain, ac erbyn ei farwolaeth ym 1870 roedd o wedi adeiladu 5 y cant o reilffyrdd y byd, gan gynnwys saith deg pump y cant o reilffyrdd Ffrainc, rheilffyrdd dros Ewrop ac yng Nghanada, Awstralia, De America ac India. Adeiladodd bontydd, ddociau, orsafoedd a thwnelli hefyd, heb sôn am longau, pyllau, ffatrioedd a threfnu systemau dŵr a charthffosydd. Adeiladodd rhan o system carthffosydd Llundain. Roedd ganddo gyfrandaliadau yn y llong ‘Great Eastern’, adeiladwyd gan Isambard Kingdom Brunel. Gadawodd ffortiwn o dros bum miliwn o bunnau, buasai’n werth tua chwe chant miliwn erbyn heddiw.[1]

Traphont Cefn Mawr, gyda Phont Cario Dŵr Pontcysyllte o'i blaen hi

Bywyd cynnar

[golygu | golygu cod]

Cafodd Thomas Brassey ei eni ar 8 Tachwedd 1805; ei rieni oedd John Brassey, ffermwr, a’i wraig Elizabeth.[2] Cafodd addysg gartref hyd at 12 oed, ac aeth o wedyn i Ysgol King’s, Caer.[3] Pan oedd o’n 16 oed, daeth o’n brentis i dirfesurydd ac asiant, William Lawton. Tra oedd o’n brentis, roedd o’n cynorthwyydd i dirfesurydd yr A5 ac wedi cyfarfod â Thomas Telford. Daeth o’n bartner i William Lawton, a symudodd i Benbedw. Tyfodd eu cwmni i gynnwys perchnogaeth a rheolaeth dros chwareli, gwaith brics ac odynau calch. Defnyddiwyd eu brics yn Lerpwl a datblygwyd Brassey ffyrdd newydd o symud eu cynnyrch, megis paledau a rheilffordd yn defnyddio disgyrchiant rhwng chwarel a phorthladd. Bu farw Lawton, a daeth Brassey yn berchennog i'r cwmni.[2][4][5][6]

Gwaith cynnar ym Mhrydain

[golygu | golygu cod]

Dechreuodd Brassey ei yrfa fel peiriannydd sifil gan adeiladu ffordd 4 milltir yn Bromborough a phont yn Saughall Massie yng Nghilgwri[7] Cyfarfu George Stephenson tro oedd Stephenson yn adeiladu Rheilffordd Lerpwl a Manceinion ac awgrymodd Stephenson y dylai Brassey gweithio ar adeiladu rheilffyrdd. Adeiladodd Brassey draphont Penkridge ym 1837, yn ogystal â 10 milltir o’r rheilffordd rhwng Stafford a Wolverhampton. Mae’r draphont yn dal i sefyll ac yn cario trenau.[4] Wedyn enillodd o gytundebau i weithio ar Rheilffordd Llundain a Southampton, Rheilffordd Caer a Chryw, Rheilffordd Glasgow, Paisley a Greenock a Rheilffordd Manceinion a Sheffield.

Cytundebau cynnar yn Ffrainc

[golygu | golygu cod]
Opening ceremony of the Rouen and Le Havre Railway in 1844

Pan sefydlwyd Rheilffordd Paris a Rouen, appoyntwyd Joseph Locke ei beiriannydd. Ystyriodd Locke bod cynigion y contractwyr Ffrangeg yn rhy ddrud, felly derbynnodd cynnig gan Thomas Brassey a William Mackenzie ym 1841. Enillodd Brassey a Mackenzie 4 cytundeb rhwng 1841 a 1844, gyda chyfanswm o 437 milltir, gan gynnwys Rheilffordd Orléans a Bordeaux. Ond, wedi’r chwyldro ym 1948, roedd creisis ariannol yn Ffrainc ac roedd rhaid i Brassey chwilio am waith rhywle arall.

Cwympiad traphont Barentin

[golygu | golygu cod]
Traphont Barentin wedi ail-adeiladu

Syrthiodd traphont Barentin ym mis Ionawr 1846, un o’r ychydig o drychinebau yn yrfa Brassey. Adeiladwyd y bont gyda brics, ac yn ôl y gytundeb, dylir ddefnyddio cynnyrch lleol, a syrthiodd y traphont ar ôl sawl diwrnod o law trwm.[4] Ailadeiladwyd y traphont yn defnyddio priddgalch gwahanol, a thalodd Brassey'r cost. Mae’r draphont yn sefyll hyd at heddiw, ac yn cael ei defnyddio o hyd.[4]

"Mania rheilffordd”

[golygu | golygu cod]

Cyrhaeddodd y mania tra oedd Brassey’n adeiladu rheilffyrdd yn Ffrainc. Adeiladwyd llawer o reilffyrdd ym Mhrydain. Ymunodd Brassey â’r mania, ond dewisodd ei gytundebau a buddsoddwyr yn ofalus.[2] Arwyddodd 9 cytundeb ym 1845, i adeiladu dros 340 milltir o reilffordd.[4] Dechreuodd Brassey a Locke Rheilffordd Caerhirfryn a Chaerliwelydd ym 1844 yn mynd trwy dyffryn Afon Lune, a dros Shap, 70 milltir o hyd.[2] Roedd ei waith ym 1845 yn cynnwys Rheilffordd Dyffryn Trent (50 milltir) a Rheilffordd Caer a Chaergybi (84 milltir), gan gynnwys Pont Britannia dros Afon Menai. Arwyddodd gytundeb i adeiladu Rhelffordd y Caledonian, rhwng Caerliwelydd, Glasgow a Chaeredin dros Beattock yn gweithio gyda’r peiriannydd George Heald[2] yn ystod 1845 a dechreuodd waith ar reilffyrdd eraill yn Yr Alban. Ym 1846, dechreuodd waith ar Reilffordd Swydd Gaerhirfryn a Swydd Efrog rhwng Lerpwl a Hull. Cafodd Brassey gytundeb i adeiladu 75.5 milltir o’r Rheilffordd y Great Northern yn 1847; roedd William Cubitt y brif beiriannydd i’r rheilffordd. Roedd problem gyda thir corsog y Ffens, a datrysodd Brassey’r broblem gyda chymorth gan Stephen Ballard, un o’i asientau. Gosodwyd haenau o goediach a mawn i greu sail cadarn.[4] Defnyddir y rheilffordd hyd at heddiw., yn rhan o brif linell yr arfordir dwyreiniol. Dechreuodd Brassey i adeiladu Rheilffordd Gogledd Swydd Stafford yn 1847. Erbyn diwedd y "Mania rheilffordd” roedd Brassey wedi adeiladu trean o reilffyrdd Prydain.[2]

Ehangu ei waith yn Ewrop

[golygu | golygu cod]

Wedi diwedd y “Railway Mania” ym Mhrydain, gweithiodd ar Reilffordd Barcelona a Mataró Railway (18 milltir o hyd) ym 1848. Ym 1850, gweithiodd ar Reilffordd Prato a Pistoia , (10 milltir) yn Yr Eidal, wedyn Rheilffordd Torino-Milan (60 milltir rhwng Torino a Novara ym1853 a Rheilffordd Canoldir yr Eidal (52 milltir). Yn cydweithio gyda Samuel Morton Peto, adeiladodd Brassey’r [[Rheilffordd Oslo-Bergen (56 milltir). Yn Ffrainc, adeiladodd 133 milltir o cledrau ar Reilffordd Mantes a Caen ym 1852, a Rheilffordd Caen a Cherbourg (94 milltir) ym 1854. Yn cydweithio gyda Joseph Locke, adeiladodd y Rheilffordd Dutch Rhenish (43 milltir) yn Yr Iseldiroedd ym 1852. Yn y cyfamser, adeiladodd llinell Gororau Cymru (51 milltir) ar gyfer Rheilffordd Amwythig a Henffordd, Rheilffordd Henffordd, Ross, a Chaerloyw (50 milltir), Rheilffordd Llundain, Tilbury a Southend (50 milltir) a Rheilffordd Gogledd Dyfnaint rhwng Minehead a Barnstaple (47 milltir).

Rheilffordd Grand Trunk, Canada

[golygu | golygu cod]
Adeiladu Pont Fictoria

Arwyddodd Brassey gytundeb fwyaf ei yrfa ym 1852, i adeiladu Rheilffordd Grand Trunk, Canada, rhwng Quebec a Toronto, 539 milltir o hyd. Peiriannydd y prosiect oedd Alexander Ross a’r peiriannydd ymgynghorol oedd Robert Stephenson. Cydweithiodd Brassey gyda Peto, Betts a Syr William Jackson.

Aeth y rheilffordd ar draws Afon St Lawrence ym Montreal ar Bont Fictoria, Pont diwb cynlluniwyd gan Stephenson, pont hiraf y byd ar y pryd, 1.75 milltir o hyd. Agorwyd y bont ym 1859, ac yn swyddogol ym 1860 gan Dywysog Cymru.[4]

Roedd problemau’n codi arian i’r prosiect; aeth Brassey i Ganada unwaith i apelio am gymorth ariannol. Roedd y prosiect yn fethiant ariannol, a collodd y cytundebwyr filiwn o bynnau.[2]

Gwaith Canada

[golygu | golygu cod]

Cynhwysodd ei gytundeb i’r reilffordd y defnydd i gyd i adeiladu’r rheilffordd, gan gynnwys y cerbydau. Adeiladwyd ffatri, y Gwaith Canada, ym Mhenbedw i adeiladu popeth sy’n cynnwys metel. Darganfuwyd safle addas gan George Harrison, brawd yng nghyfraith Brassey. Daeth Harrison rheolwr y ffatri. Adeiladwyd cei ar ochr y ffatri. Cedwyd peiriannau mewn adeilad 900 troedfedd o hyd, yn cynnwys gefail gyda 40 o ffwrneisi, einionau, gordd ager, gweithdy copor, gweithdy coed, siopau patrwm, llyfrgell ac ystafell ddarllen i’r gweithlu. Cynlluniwyd y siop ffitio i adeiladu 40 o locomotifau’n flynyddol, a chynhyrchwyd 300 dros yr 8 mlynedd dilynol. Enwyd yr un cyntaf, ym Mai 1854, yr enw ‘Lady Elgin’, ar ôl gwraig Llywodraethwr Cyffredinol Canada, yr Arglwydd Elgin. Roedd angen canoedd o filoedd o ddarnau i adeiladu’r bont; crëwyd y cwbl ym Mhenbedw neu ffatrioedd eraill yn Lloegr.[5] Roedd angen dros 10,000 o ddarnau haearn i greu tiwb canolog y bont, gyda tyllau i ffitio hanner miliwn o rybedi.[2]

Rheilffordd y Grand Crimean Central

[golygu | golygu cod]
Gwaith ar y rheilffordd, 1854

Anfonwyd 30,000 o filwyr o Brydain, Ffraind a Thwrci i ymosod ar Sevastopol ym 1854 yn ystod y Rhyfel Crimea. Roedd hi’n anodd symud nwyddau, bwyd, arfau ac ati, a chynigwyd Brassey, Peto a Betts i adeiladu rheilffordd. Anfonwyd offer, gweithwyr a defnyddiau. Adeiladwyd rheilffordd rhwng Balaclafa a Sevastopol ar ôl saith wythnos.[8]

Gweithio’n fyd eang

[golygu | golygu cod]
Locomotif Brassey ar Reilffordd Warsaw-Teraspol, 1866

Adeiladodd Brassey rheilffyrdd yn Ne America, Awstralia, yr India a Nepal.[2] Oherwydd cwymp Banc Overend Gurney ym 1866, roedd problemau cyllidol mawr ym Mhrydain, ond goroesodd Brassey. Adeiladodd Reilffordd Lviv a Chernivtsi er digwyddodd y Rhyfel Awstro-Prwsaidd ar yr un adeg.[2] Daeth o’n afiach o 1867 ymlaen, ond adeiladodd Reilffordd Chernivtsi a Suczawa. Erbyn iddo farw roedd o wedi adeiladu 5 y cant o filltiroedd o reilffyrdd yn y byd.[2]

Cytundebau eraill

[golygu | golygu cod]
Doc Fictoria, Llundain, gyda’r lifft heidrolig

Adeiladodd Brassey ffatri peirianwaith yn Ffrainc. Adeiladodd o systemau draeniad a gwaith dŵr yn Kolkata. Adeiladodd o ddociau yn Greenock, Penbedw, Barrow a Llundain. Agorwyd y dociau yn Llundain ym 1857. Roedd sawl warws a seler gwin. Roedd gan y dociau gysylltiad gyda Rheilffordd Llundain, Tilbury and Southend, un o reilffyrdd Brassey.[4]

Rhwng 7 Tachwedd 1805 ac 8 Rhagfyr 1870

[golygu | golygu cod]

Adeiladodd Brassey carthfosydd yn Llundain ym 1861, rhan o gynllun Joseph Bazalgette. Adeiladodd 12 milltir o’r ffos Lefel Canol, o Kensal Green, o dan Heol Bayswater, Stryd Rhydychen a Clerkenwell, hyd at Afon Lea. Ystyriwyd y tasg un o’r caletach y whaeth o[9].[10]

Rhoddodd Brassey gymorth cyllidol i Brunel i adeiladu’r llong SS Great Eastern. Roedd Brassey yn gyfandaliwr yn y prosiect, ac ar ôl marwolaeth Brunel, prynodd, gyda Gooch a Barber, y llong i osod y gablen delegraff gyntaf ar draws y Môr Iwerydd ym 1864.[11] Roedd ganddo cynllun i adeiladu twnnel o dan y Sianel, ond doedd gan y llywodraethau ddim diddordeb. Roedd ganddo’r syniad o adeiladu camlas dros Panama hefyd.[12]

Dullau gweithio

[golygu | golygu cod]
Pont Fictoria, Montréal ac enwau’r partneriaid

Fel arfer, gweithiodd Brassey gyda chontractwyr eraill, yn aml Peto a Betts. Cynlluniwyd manylion y prosiectau gan y peirianyddion., sy wedi cynnwys Robert Stephenson, Joseph Locke ac Isambard Kingdom Brunel.[13] Rheolwyd gwaith is-contractwyr gan asiantau.[14] Gwnaeth ‘Navvies’ mwyafrif y gwaith. Roedd y mwyafrif yn Saeson yn y dyddiau cynnar, a daeth llawer ohonynt o waith ar camlesi. Yn hwyrach, daeth mwy o’r Alban, Cymru ac Iwerddon, yn arbennig ar ôl y newyn yn Iwerddon. Roddwyd bywyd, lloches, gwisg ac yn achlysurol llyfrgell i’r gweithwyr. Gweithiodd pobl leol ar y cytundebau tramor, neu weithiau gweithwyr o Brydain. Roedd asiantau’n gyfrifol am y prosiectau, yn derbyn canran yr elw, weithiau gyda bonws i orffen yn gynnar a chosb am orffen yn hwyr.[2]

Cyflogodd Brassey cannoedd o asiantau; Ar ôl iddo arwyddo cytundeb waith, roedd digonedd o bres ar gael i’r asiant. Pe tasai’r asiant wedi cwblhau’r gwaith yn rhatach, roedd yr asiant yn rhydd i gadw’r gweddill. Os oedd problemau annisgwyl, buasai Brassey’n rhoi pres ychwanegol iddynt.[15] Dros cyfnod o fwy na 20 mlynedd, cyflogodd Brassey tua 80,000 o weithwyr dros 4 cyfandir.[16] Nid oedd ganddo swyddfa neu bobl i wneud y gwaith gweinyddol; gwnaeth Brassey y cwbl. Roedd ganddo was ac ariannydd.[17]; [18]

Derbynnodd Brassey nifer o anrhyddedau, gan gynnwys y Légion d'honneur Ffrengig a Choron Haearn Awstria.[19]

Priodas a phlant

[golygu | golygu cod]

Priododd o Maria Harrison ym 1831[20] a chafodd gefnogaeth oddi wrthi hi, gan gynnwys cefnogaeth ar ddechrau ei yrfa i geisio am gytundeb Traphont Dutton, a’r un dilynol.[21] Roedd rhaid i’r teulu symud tŷ yn gynnar yn ei yrfa, o Phenbedw i Stafford, Kingston ar Dafwys, Caergwynt a Fareham, yn dilyn ei gwaith. Siaradodd Maria Ffrangeg, ac roedd hi’n bwysig yn y broses o chwilio am gytundebau yn Ffrainc. Symud odd y teulu i Vernon yn Normandi, wedyn Rouen, Paris ac yn ôl i Rouen.[22] Roedd Maria ei gyfieithydd trwy ei waith i gyd yn Ffrainc.[23]

Roedd ganddynt 3 mab, a threfnodd Maria eu haddysg yn Llundain.[24] They had three surviving sons, who all gained distinction in their own right:[25] Bu farw mab arall yn ifanc iawn.

Bywyd hwyr a marwolaeth

[golygu | golygu cod]

Clywodd Brassey fod ganddo gancer, ond parhaodd gyda’i waith. Ymwelodd â Reilffordd Wolverhampton a Walsall, un o’r reilffyrdd gynharaf.[26] Arhosodd gartref yn St Leonards, Swydd Sussex, yn hwyr ym 1870.Bu farw Brassey ar 8 Rhagfyr 1870 yn St Leonards a chladdwyd ym mynwent Eglwys Sant Laurence, Catsfield. Gadawodd £5,200, 000; £3,200,000 ym Mhrydain a dros £2,000,000 mewn cronfa ymddiriedolaeth.

Roedd o’n ddyn llawn egni ac oedd yn ddyn trefnus. Gwrthododd i sefydd fel aelod seneddol. Doedd ganddo ddjm diddordeb mewn anrhydeddau; derbynnodd medalau o Ffrainc ac Awstria ond eu gollodd nhw. Dywedir y daeth ei lwyddiant o ysbrydoli eraill yn hytrach nac eu gyrru nhw.[27] Disgwylodd safonau uchel yng ngwaith ei weithwyr.[28] Gweithiodd o’n galed a roedd ganddo gof da. Roedd o’n deg i’w gweithwyr ac is-gytundebwyr, a weithiau cymerodd waith heb elw mawr er mwyn rhoi gwaith i’w gweithwyr.[29]

Oherwydd Brassey, codwyd statws cytundebwyr peirianyddiaeth sifil i lefel peirianwyr yn ystod y 18fed ganrif.[30]

Coffadwriaeth

[golygu | golygu cod]
Cerflun, Cadeirlan Caer
Cerrig Canmoliant Brassey, Bulkeley

Crëwyd cofeb i’w rhieni gan eu tri meibion yng Nghapel Erasmus, Cadeirlan Caer.[31] Mae hefyd cerflun ohono yn Amgueddfa Grosvenor, Caer, a phlac yng Nghorsaf reilffordd Caer ac mae’r strydoedd dilynol yn ei goffáu: Brassey Street a Thomas Brassey Close. Mae hefyd 3 heol gyda’i gilydd gyda’r enwau ‘Lord’, ‘Brassey’ a ‘Bulkeley’.[32] Mae plac glas ar safle Gwaith Canada ar Heol Beaufort ym Mhenbedw.[33]. Mae trafodaeth ynglŷn â cherflun ohono o flaen Gorsaf reilffordd Caer, ond mae codi pres wedi bod yn broblem.

Ei reilffyrdd

[golygu | golygu cod]

Roedd o’n gyfrifol am adeiladu dros 8500 milltir o reilffyrdd. Erbyn 1847 roedd o wedi adeiladu treian y rheilffydd ym Mhrydain, ac erbyn ei farwolaeth un o bob hugain milltir o reilffordd yn y byd. Adeiladodd o strwythurau eraill ymghlwm â rheilffyrdd hefyd; gorsafoedd, pontydd ac ati.

Rheilffyrdd

[golygu | golygu cod]

Prydain

[golygu | golygu cod]
1830au
[golygu | golygu cod]
Rheilffordd Dyddiad Hyd
milltiroedd cilometrau
Rheilffordd y Grand Junction (rhan) 1833 10 16
Rheilffordd Llundain a Southampton (rhan) 1834 36 58
Rheilffordd Caer a Chryw 1837 11 18
Rheilffordd Glasgow, Paisley a Greenock (rhan) 1837 7 11
Rheilffordd Sheffield a Manceinion 1837 19 31
1840au
[golygu | golygu cod]
Rheilffordd Dyddiad Hyd
milltiroedd cilomedrau
Rheilffordd Lancaster a Chaerliwelyw 1844 70 113
Rheilffordd Caer Colun ac Ipswich 1844 16 26
Rheilffordd Caer a Chaergybi 1844 31 50
Rheilffordd Ipswich a Bury 1845 27 43
Rheilffordd Kendal a Windermere 1845 12 19
Rheilffordd Dyffryn Trannon 1845 50 80
Rheilffordd y Caledonian (cytundeb cyntaf) 1845 125 201
Rheilffordd Cyffordd Clydesdale 1845 15 24
Estyniad Rheilffordd Mwyn Gogledd Cymru 1845 5 8
Rheilffordd cyffordd Canolbarth yr Alban 1845 33 53

Rheilffordd Ganolog yr Alban

1845 47 76
Rheilffordd Haughley a Norwich 1845 33 53
Rheilffordd Amwythig a Chaer 1846 35 56
Rheilffordd Lerpwl, Ormskirk a Preston 1846 30 48
Rheilffordd Gogledd Swydd Stafford 1846 48 77
Rheilffordd Swydd Buckingham 1846 40 64
Rheilffordd Mwyn (Cymru) 1846 6.5 10
Rheilffordd y Great Northern 1846 75 121
Rheilffordd Royston a Hitchin 1846 13 21
Estyniad Rheilffordd Shepreth 1846 5 8

Shrewsbury and Hereford Railway

1846 51 82
Cangenni Denny a Falkirk 1846 3.5 6
Rheilffordd Cyffordd Penbedw a Chaer 1847 17.5 28
Rheilffordd Caerlyr a Hitchin 1847 62.5 101
Rheilffordd Hooton a Parkgate 1847 5 8
Rheilffordd Richmond a Windsor 1847 15 24
Rheilffordd Llundain a Southampton 1847 7 11
Estyniad Rheilffordd Amwythig 1847 3 5
Estyniad Rheilfforrdd Blackwall 1847 1.75 3
Rheilffordd Cangen Croesoswallt 1848 2 3
1850au
[golygu | golygu cod]
Rheilffordd Dyddiad Hyd
milltiroedd cilomedrau
Rheilffordd Cyffordd Gogledd a De-Orllewin 1851 4 6
Rheilffordd Henffordd, Ross a Chaerloyw 1851 30 48
Cangen Dyffryn Waveney, Rheilffordd Harleston a Beccles 1851 13 21

Rheilffordd Llundain, Tilbury a Southend

1852 50 80
Rheilffordd Warrington a Stockport 1853 12 19
Bideford Extension 1853 6 10
Crystal Palace and West-end Railway 1853 5 8
Rheilffordd Cryw ac Amwythig 1853 32.5 52
Rheilffordd Uniongyrchol Portsmouth 1853 33 53
Rheilffordd Caerwrangon a Henffordd 1853 26 42
Rheilffordd Dyffryn Hafren 1853 42 68
Rheilffordd Coalbrookdale 1853 5 8
Rheilffordd Woodford a Loughton 1853 7.5 12
Rheilffordd Dwyrain Swydd Suffolk 1854 63 101
Rheilffordd Inverness a Nairn 1854 16 26
Rheilffordd Llanllieni a Kington 1854 14 23
Rheilffordd Caersallog a Yeovil 1854 40 64
Pier a Changen Stokes Bay 1855 2 3
Rheilffordd Cyffordd Inverness ac Aberdeen 1856 40 64
Cangenni Sutton a Dyffryn Mole, Rheilffordd Leatherhead, Epsom a Wimbledon 1856 10 16
Rheilffordd Mwyn Cannock 1857 10 16
Rheilffordd Portpatrick 1857 17 27
Rheilffordd Trefyclawdd 1858 12 19
Rheilffordd Woofferton a Tenbury 1859 5 8
Rheilffordd Wenlock 1859 4 6
Rhilffordd Nuneaton a Hinckley 1859 5 8 Rheilffordd Llangollen 1859 6 10
Rheilffordd Ringwood a Christchurch 1859 8 13
Estyniad Rheilffordd Gorllewin Llundain 1859 9 14
Rheilffordd Cantref Tendring 1859 3 5
Rheilffordd Epping ac Ongar 1859 13 21
1860au
[golygu | golygu cod]
Rheilffordd Dyddiad Hyd
milltiroedd cilomedrau
Rheilffordd Ashchurch ac Evesham 1862 11 18
Rheilffordd de Swydd Gaerlyr 1860 10 16
Tenbury and Bewdley Railway 1860 15 24
Rheilffordd Llangollen a Chorwen 1860 10 16
Rheilffordd Cannock Chase 1860 3 5
Rheilffordd Disley a Hayfield 1860 3.5 6
Rheilffordd Nantwich a Market Drayton 1863 11 18
Rheilffordd Wenlock a Craven Arms 1861 14 23
Cyffwrdd Clee Hill, Rheilffordd Ludlow a Clee Hill 1861 16 26
Rheilffordd Dunmow 1864 19 31
Rheilffordd Enniskillen a Bundoran 1861 36 58
Rheilffordd Moreton Hampstead 1862 12 19
Rheilffordd Wellington a Market Drayton 1862 16 26
Rheilffordd Bala a Dolgellau 1862 18 29
Rheilffordd Christchurch a Bournemouth 1863 4 6
Rheilffordd Evesham a Redditch 1863 18 29
Rheilffordd Kensington a Richmond (a darnau bach eraill) 1864 7 11
Rheilffordd Silverdale 1864 13 21
Rheilffordd Wolverhampton a Walsall 1865 7 11
Rheilffordd Dwyrain Llundain 1865 2.5 4
Rheilffordd Hull a Doncaster 1864-9 15 24
Eraill
[golygu | golygu cod]
Rheilffordd Hyd
milltiroedd cilomedrau
Rheilffodd Gogledd Swydd Dyfnaint 47 76
Estyniad Rheilffordd Woodbridge 10 16
Estyniad Rheilffordd Kingston 4 6
Rheilffordd Sudbury, Bury St Edmunds a Chaergrawnt 48 77
Estyniad Rheilffordd Chertsey 3 5
Rheilffordd Llundain a Bedford (Prif lein y canolbarth 50 80
Cangen Runcorn 9 14
Rheilffordd Cwm Sirhowy 2 3
Cangen Arpley, Warrington 1.5 2
Rheilffordd Glynebwy 2 3
Rheilffordd Loop Henffordd 2 3
Rheilffordd Swydd Gaerhirfryn a Swydd Efrog 93 150
Rheilffordd Glasgow, Barrhead a Neilson 11 18

Ffrainc

[golygu | golygu cod]

75 o filltiredd y wlad, yn cynnwys:

Rheilffordd Dyddiad Hyd
milltiroedd cilomedrau
Rheilffordd Paris a Rouen 1841 82 132
Rheilffordd Orléans a Bordeaux 1842 294 473
Rheilffordd Rouen a Le Havre 1843 58 93
Amiens and Boulogne Railway 1844 53 85
Rheilffordd Rouen a Dieppe 1847 31 50
Rheilffordd Mantes a Caen 1852 113 182
Rheilffordd Le Mans a Mezidon 1852 84 135
Rheilffordd Lyon ac Avignon 1852 67 108
Rheilffordd Sambre a Meuse 1853 28 45
Caen i Cherbourg 1855 94 151
Rheilffordd Dieppe (gosod llinell ychwanegol) 1860

Eraill yn Ewrop

[golygu | golygu cod]
Rheilffordd Gwlad Dyddiad Hyd
milltiroedd cilomedrau
Rheilffordd Barcelona a Mataró Sbaen 1848 18 29
Rheilffordd Prato a Pistoja Yr Eidal 1850 10 16
Rheilffordd Norwy Norwy 1851 56 90
Rheilffordd Rhenish Yr Iseldiroedd 1852 43 69
Rheilffordd Turin a Novara Yr Eidal 1853 60 97
Rheilffordd Frenhinol Denmarc Denmarc 1853 75 121
Rhelffordd Ganolog yr Eidal Yr Eidal 1854 52 84
Rheilffordd Turin a Susa Yr Eidal 1854 34 55
Rheilffordd Elizabeth a Linz Awstria 1856 40 64
Rheilffordd Bilbao a Miranda Sbaen 1858 66 106
Rheilffordd Victor Emmanuel Yr Eidal 1859 73 117
Rheilffordd Ivrea Yr Eidal 1859 19 31
Rheilffordd Jutland Denmarc 1860 270 435
Rheilffordd Maremma a Livorno Yr Eidal 1860 138 222
Rheilffordd Meridionale Yr Eidal 1863 160 257
Rheilffordd Gogledd Schleswig Denmarc 1863 70 113
Rheilffordd Lemberg a Czernowitz Ymerodraeth Awstria (erbyn hyn Wcráin) 1864 165 266
Rheilffordd Viersen a Venlo O’r Almaen i’r Iseldiroedd 1864 11 18
Rheilffordd Tiraspol a Warsaw Gwlad Pwyl 1865 128 206
Rhielffordd Kronprinz Rudolph Awstria 1867 272 438
Rheilffordd Chernivtsi a Suczawa Ymerodraeth Awstria (erbyn hyn Wcráin) 1867 60 97
Rheilffordd Vorarlberg Awstria 1870 55 89
Rheilffordd Suczawa and Iaşi Rwmania 1870 135 217

Canada

[golygu | golygu cod]
Rheilffordd Dyddiad Hyd
milltiroedd cilomedrau
Rheilffordd Grand Trunk, Quebec - Toronto 1854–1860 539 867

Yr Ariannin

[golygu | golygu cod]
Rheilffordd Dyddiad Hyd
milltiroedd cilomedrau
Rheilffordd Canolog Ariannin 1864 247 398
Rheilffordd La Boca a Barracas 1865 3 5

Awstralia

[golygu | golygu cod]
Rheilffordd Dyddiad Hyd
milltiroedd cilomedrau
Prif linell i'r gogledd, De Gymru Newydd 1859 54 87
Rheilffordd Queensland 1863 78 126
Rheilffordd Dyddiad Hyd
milltiroedd cilomedrau
Rheilffordd Dwyrain Benga 1858 112 180
Rheilffordd Delhi 1864 304 489
Rheilffordd Grand Chord 1865 147 237

Mauritius

[golygu | golygu cod]
Rheilffordd Dyddiad Hyd
milltiroedd cilomedrau
Rheilffordd Mauritius 1862 64 103

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • 'The world the railways made' gan Nicholas Faith; cyhoeddwyr Bodley Head, 1993; isbn =0-370-31299-6
  • 'The Railway Builders: Lives and Works of the Victorian Railway Contractors' gan R.S. Joby; Cyhoeddwyr David a Charles, 1983; isbn =0-7153-7959-3
  • 'William Heap and his Company' gan John Millar; Cyhoeddwr William Millar, 1976; isbn =0-9510965-1-6

Dolen allanol

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Gwefan www.royprecious.co.uk
  2. 2.00 2.01 2.02 2.03 2.04 2.05 2.06 2.07 2.08 2.09 2.10 2.11 Charles Walker, Thomas Brassey, Railway Builder (Frederick Muller, 1969)
  3. "Webarchive|url=https://web.archive.org/web/20111215071558/ |date=2011-12-15 Gwefan Ysgol King's". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-12-15. Cyrchwyd 2021-12-01.
  4. 4.0 4.1 4.2 4.3 4.4 4.5 4.6 4.7 Arthur Helps, Life and Labours of Thomas Brassey (Elibron Classics, 2005)
  5. 5.0 5.1 Tom Stacey, Thomas Brassey: The Greatest Railway Builder in the World (Stacey International, 2005)
  6. Doug Haynes, "The Life and Work of Thomas Brassey", Cheshire History
  7. 'Village bridge the first by engineering giant’ gan Liam Murphy; Daily Post, 21 Tachwedd 2005
  8. Brian Cooke, The Grand Crimean Central Railway, Knutsford (Cavalier House)
  9. ’Life and Labours of Thomas Brassey’ gan Arthur Helps; Cyhoeddwyr Elibron Classics 2005; isbn=978-1-4021-0563-0
  10. ’Life and Labours of Thomas Brassey’ gan Arthur Helps; Cyhoeddwyr Elibron Classics 2005; isbn=978-1-4021-0563-0
  11. ’Thomas Brassey, Railway Builder’ gan Charles Walker; cyhoeddwr Frederick Muller, 1969; isbn =0-584-10305-0
  12. ’Thomas Brassey, Railway Builder’ gan Charles Walker; cyhoeddwr Frederick Muller, 1969; isbn =0-584-10305-0
  13. ’Thomas Brassey: The Greatest Railway Builder in the World’ gan Tom Stacey; cyhoeddwyr Stacey International, 2005; isbn =1-905299-09-5
  14. ’Thomas Brassey, Railway Builder’ gan Charles Walker; cyhoeddwr Frederick Muller, 1969; isbn =0-584-10305-0
  15. ’Thomas Brassey: The Greatest Railway Builder in the World’ gan Tom Stacey; cyhoeddwyr Stacey International, 2005; isbn =1-905299-09-5
  16. ’Thomas Brassey: The Greatest Railway Builder in the World’ gan Tom Stacey; cyhoeddwyr Stacey International, 2005; isbn =1-905299-09-5
  17. ’Thomas Brassey: The Greatest Railway Builder in the World’ gan Tom Stacey; cyhoeddwyr Stacey International, 2005; isbn =1-905299-09-5
  18. ’Thomas Brassey, Railway Builder’ gan Charles Walker; cyhoeddwr Frederick Muller, 1969; isbn =0-584-10305-0
  19. ’Thomas Brassey: The Greatest Railway Builder in the World’ gan Tom Stacey; cyhoeddwyr Stacey International, 2005; isbn =1-905299-09-5
  20. ’Thomas Brassey, Railway Builder’ gan Charles Walker; cyhoeddwr Frederick Muller, 1969; isbn =0-584-10305-0
  21. ’Thomas Brassey, Railway Builder’ gan Charles Walker; cyhoeddwr Frederick Muller, 1969; isbn =0-584-10305-0
  22. ’Thomas Brassey: The Greatest Railway Builder in the World’ gan Tom Stacey; cyhoeddwyr Stacey International, 2005; isbn =1-905299-09-5
  23. ’Thomas Brassey, Railway Builder’ gan Charles Walker; cyhoeddwr Frederick Muller, 1969; isbn =0-584-10305-0
  24. ’Thomas Brassey: The Greatest Railway Builder in the World’ gan Tom Stacey; cyhoeddwyr Stacey International, 2005; isbn =1-905299-09-5
  25. ’Thomas Brassey: The Greatest Railway Builder in the World’ gan Tom Stacey; cyhoeddwyr Stacey International, 2005; isbn =1-905299-09-5
  26. ’Thomas Brassey, Railway Builder’ gan Charles Walker; cyhoeddwr Frederick Muller, 1969; isbn =0-584-10305-0
  27. ’Thomas Brassey: The Greatest Railway Builder in the World’ gan Tom Stacey; cyhoeddwyr Stacey International, 2005; isbn =1-905299-09-5
  28. ’Thomas Brassey, Railway Builder’ gan Charles Walker; cyhoeddwr Frederick Muller, 1969; isbn =0-584-10305-0
  29. ’Thomas Brassey, Railway Builder’ gan Charles Walker; cyhoeddwr Frederick Muller, 1969; isbn =0-584-10305-0
  30. [ http://www.oxforddnb.com/view/article/3289 Geiriadur Rhydychen Bywgraffiad Cenedlaethol]
  31. Doug Haynes, "The Life and Work of Thomas Brassey", Cheshire History
  32. Gwefan www.chestertourist.com
  33. Gwefan y Wirral Globe