Vilmos Huszár | |
---|---|
Ganwyd | Herz Vilmos 5 Ionawr 1884 Budapest |
Bu farw | 8 Medi 1960 Hierden, Harderwijk |
Dinasyddiaeth | Brenhiniaeth yr Iseldiroedd, Hwngari |
Galwedigaeth | arlunydd, gwrthryfelwr milwrol, dylunydd graffig, cynllunydd, teipograffydd |
Arddull | celf haniaethol |
Mudiad | celf haniaethol |
Peintiwr a dyluniwr o Hwngari oedd Vilmos Huszár (5 Ionawr 1884 – 8 Medi 1960). Adnabyddir ef orau am fod yn un o sefydlwyr symudiad arlunio'r Iseldiroedd, De Stijl.
Ganwyd yn Bwdapest, Hwngari ac ymfudodd i'r Iseldiroedd yn 1905, gan fyw yn Voorburg gyntaf, dylanwadwyd gan arlunwaith Ciwbiaeth a Dyfodiaeth. Cyfarfu nifer o arlunwyr dylanwadol megis Piet Mondrian a Theo van Doesburg, y ddau yn ganolig yn sefydliad symudiad De Stijl gyda Huszár yn 1917. Cyd-sefydlodd gylchgrawn De Stijl yn ogystal, a dyluniodd glawr y rhifyn cyntaf.
Yn 1918 dyluniodd gynllun lliw mewnol ar gyfer lloft Tŷ Bruynzeel yn Voorburg. Rhwng 1920 a 1921 cydweithiodd gyda Piet Zwart ar ddyluniadau dodrefn. Gadawodd y grŵp De Stijl yn 1923 a chyd-weithiodd gyda Gerrit Rietveld ar arddangosfa mewnol ar gyfer Arddangosfa Alrunio Berlin Fwyaf. Rhwng 1925, Huszár canolbwyntiodd ar ddylunio graffeg a phaentio.
Yn 1926 creodd hunaniaeth gweledol cyflawn ar gyfer cwmni sigaret Miss Blanche Virginia, a gynhwysodd pecynnu, hysbysebu, a deunudd arddangos man gwethiant. Tynnodd y gysyniad elfennau o'r lluniau a oedd yn gysylltiedig â "Merched Newydd", neu Flappers, a oedd yn dechrau ymddangos yn yr 1920au. Cafodd y Flappers eu cael eu gweld fel merched ifanc, sengl, dinesig, a chyflogedig, gyda syniadau annibynnol a dirmyg arbennig tuag at awdurdod ac arferion cymdeithasol. Cafodd ysmygu sigaret ei gysylltu â'r annibyniaeth newydd yma.
Ni wyddwn leoliad y rhan fwyaf o waith Huszár, mae nifer o'i beintiadau a'i gerfluniau yn wybyddus i ni yn unig oherwydd y ffotograffau a welwyd yng nghylchgrawn De Stijl, neu o ffotograffau'r arluniwr ei hun. Mae'r gweithiau sydd wedi mynd ar goll yn cynnwys y Dancing mechanical doll, teclyn a allai portreadu nifer o stumiau a fe'i ddefnyddiwyd yng nghynhadleoedd cynnar Dada yn y 1920au cynnar.
Bu farw Huszár yn Hierden, Yr Iseldiroedd, yn 1960. Rhwng 8 Mawrth a 19 Mai 1985, cynhaliwyd arddangosfe adolygol mawr o waith Huszár yn y Gemeentemuseum yn Y Hague.