W. H. Davies | |
---|---|
Ganwyd | 3 Gorffennaf 1871 Casnewydd |
Bu farw | 26 Medi 1940 Swydd Gaerloyw, Glendower And Railings To Front |
Man preswyl | Glendower And Railings To Front |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd, llenor |
Adnabyddus am | The Autobiography of a Super-Tramp |
Llenor Cymreig a ysgrifenai yn yr iaith Saesneg, a chrwydryn oedd W. H. Davies (William Henry Davies) (3 Gorffennaf 1871 – 26 Medi 1940). Mae'n fwyaf nodedig am ei gyfrol The Autobiography of a Super-Tramp (1908), un o tua 50 o lyfrau a sgwennodd. Dathlodd ef ei ben-blwydd ar 20 Ebrill, ond 3 Gorffennaf sydd ar ei dystysgrif geni.
Roedd yn ffrind i'r beirdd Edward Thomas, Rupert Brooke a Siegfried Sassoon.
Roedd yn fab i Francis Boase Davies, mowldiwr haearn, Casnewydd-ar-Wysg, a'i wraig Mary Ann.[1] Cafodd ei eni yn 6 Heol Portland ym Mhillgwenlli, Casnewydd. Fe'i addysgwyd yn yr ysgol elfennol, lle magodd ddiddordeb mewn barddoniaeth.
Priododd Helen Matilda Payne yn 1923, a hithau'n 23 oed, yn y swyddfa gofrestru yn East Grinstead, Sussex. Nododd un o'r tystion fod Davies mewn panic llwyr. Disgrifiwyd ef ar y tystysgrif priodas fel 'awdur'.[2] Nyrs oedd Helena gyfarfu Davies yn yr ysbyty; beichiogodd, ond collodd y plentyn ychydig cyn i'r ddau briodi.[2]
Wedi gorffen ei brentisiaeth fel cerfiwr a goreurwr, teithiodd yn helaeth drwy U.D.A. a Chanada. Ym Mawrth 1899, collodd ei goes wedi i'w droed dde gael ei mathru gan olwyn trên tra'n ceisio neidio ar drên yn Renfrew, Ontario.
Dychwelodd o America i Gymru a lle treuliodd ei amser yn barddoni. Ar ôl llawer o anawsterau a siomedigaethau, cyhoeddodd ei lyfr cyntaf, The Soul's Destroyer and Other Poems (Mawrth 1905). Erbyn 1911 roedd yn fardd a llenor cydnabyddedig, yn awdur wyth o lyfrau, ac yn cael blwydd-dâl o restr sifil y Llywodraeth am ei drafferth. Yn 1929, fel gwobr am ei wasanaeth i lenyddiaeth, rhoddwyd iddo radd Doethur er anrhydedd iddo, gan Brifysgol Cymru. Bu farw yn Nailsworth, Swydd Gaerloyw, 26 Medi 1940. Caiff ei waith ei ddosbarthu i'r categori 'Gweithiau Siorsiaidd', ond mae arddull a thema'r cerddi yn dra gahanol.[3]