![]() | |
Enghraifft o: | band ![]() |
---|---|
Gwlad | ![]() |
Label recordio | Recordiau Anhrefn ![]() |
Dod i'r brig | 1982 ![]() |
Dod i ben | Mehefin 2021 ![]() |
Genre | ôl-pync ![]() |
Yn cynnwys | David R. Edwards, Patricia Morgan ![]() |
![]() |
Grŵp roc arbrofol oedd yn ei anterth yn yr 1980au a'r 1990au cynnar yw Datblygu, gwelir hwy heddiw fel catalydd ton newydd o roc Cymreig yn yr 1980au cynnar.
Roedd aelodau'r band yn cynnwys y canwr David R. Edwards (1964-2021) a'r offerynnwr T. Wyn Davies yn 1982; ymunodd Patricia Morgan yn 1984.[1][2][3] Ymadawodd Davies yn 1990 ond cariodd y band ymlaen fel deuawd am gyfnod, cyn gweithio gyda nifer o gerddorion, yn nodedig, y drymiwr Al Edwards ar gyfer y trydydd albwm Libertino yn 1993. Ar ôl sengl olaf yn 1995, diflannodd y band o sylw cyfryngau ond ni ddatganwyd erioed eu bod wedi gwahanu. Yn Awst 2008, wnaeth y band rhyddhau record 7" newydd o'r enw 'Can Y Mynach Modern' ar label Ankstmusik. Roedd y record am cael eu gweld fel ddiwedd go iawn i'r band a nid fel ddechreuad newydd.
Roedd y cyflwynydd radio John Peel yn hoff iawn o'r band, a roedd yn eu chwarae yn aml ar ei sioe ar BBC Radio 1. Cafodd John Peel ei dyfynnu fel dweud "You'd have to be a bit of a ninny to ignore Datblygu, this is the band that makes me want to learn the Welsh language." Wnaeth y band recordio pump sesiwnau i'r sioe John Peel; yn 1987, 1988, 1991, 1992 a 1993.
Mae Datblygu wedi eu grybwyll fel dylanwad pwysig ar y genhedlaeth o fandiau Cymraeg a ddilynodd, yn cynnwys Gorky's Zygotic Mynci a Super Furry Animals (a wnaeth fersiwn o gân Datblygu's "Y Teimlad" ar eu albwm Mwng).[1][3]
Ymddangosodd David ar rhaglen ddogfen O Flaen dy Lygaid ar S4C yn 2009, wedi ei gyflwyno gan y darlledwr a ffrind David Ali Yassine, oedd yn dilyn David a'i frwydr i wella o afiechyd meddwl. Roedd y rhaglen hefyd yn cynnwys cyn-aelod Datblygu a chyn actores Pobol y Cwm, Ree Davies a'i brwydr hi gyda afiechyd meddwl.
Yn 2012 cynhaliwyd arddangosfa i ddathlu hanes y band mewn caffi yng Nghaerdydd.[2] Daeth Edwards a Morgan nôl at ei gilydd yn 2012 ar gyfer yr EP Darluniau'r Ogof Unfed Ganrif ar Hugain a ryddhawyd albwm fer, Erbyn Hyn, yn Mehefin 2014.[4][5]
Yn Rhagfyr 2015 ryddhawyd Porwr Trallod, albym llawn newydd gan y band (y cyntaf ers 22 mlynedd) ar Recordiau Ankstmusik.
Yn Awst 2020 ryddhawyd sengl dwbl "Cymryd y Cyfan / Purdeb Noeth" ac albwm newydd ar feinyl Cwm Gwagle, drwy label Ankstmusik.[6] Hwn oedd cynnyrch cerddorol olaf y grŵp cyn marwolaeth David R. Edwards ym Mehefin 2021.