Ernest Renan | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Joseph Ernest Renan ![]() 28 Chwefror 1823 ![]() Landreger ![]() |
Bu farw | 2 Hydref 1892 ![]() Paris, 5ed arrondissement ![]() |
Dinasyddiaeth | Ffrainc ![]() |
Addysg | Doctor of Arts ![]() |
Alma mater |
|
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | athronydd, hanesydd, llenor, athro cadeiriol, archeolegydd, dwyreinydd, beirniad llenyddol, ieithegydd, diwinydd ![]() |
Swydd | Director of the Collège de France, arlywydd, arlywydd, arlywydd, seat 29 of the Académie française ![]() |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | History of the Origins of Christianity, Q97160166 ![]() |
Priod | Cornélie Renan ![]() |
Plant | Ary Renan, Noémi Renan ![]() |
Gwobr/au | Uwch Swyddog y Lleng Anrhydedd, Volney Prize, Urdd y Rhosyn ![]() |
llofnod | |
![]() |
Awdur, athronydd a hanesydd o Lydaw oedd Joseph Ernest Renan (28 Chwefror 1823 – 2 Hydref 1892). Roedd yn ysgolhaig Hebraeg ac un o feddylwyr pwysicaf ei ganrif yn Ffrainc. Cofir amdano heddiw yn bennaf fel awdur Qu'est-ce qu'une nation? ("Beth yw cenedl?").
Ganed Renan yn Tréguier, tref Lydaweg ei hiaith yn y Côtes-d'Armor yng ngogledd Llydaw.
Ysgrifennodd nifer fawr o lyfrau ar wahanol bynciau; ei lyfr enwocaf yw Vie de Jésus ("Bywyd yr Iesu"), ymgais i ysgrifennu bywgraffiad oedd yn cynnwys beirniadaeth o'r Beibl fel ffynhonnell. Bu trafodaeth mawr am y llyfr, a chryn ddigofaint ar ran yr Eglwys Gatholig. Achosodd sgandal oherwydd iddo drin bywyd Crist o safbwynt hanesyddol yn hytrach na diwinyddol, a thrwy hynny amau duwdod Iesu.
Ond ef hefyd yw awdur un o'r traethodau pwysicaf yn hanes astudiaethau Celtaidd, sef La poésie des races celtiques ["Barddoniaeth yr hiliau Celtaidd"] (1854). Yn y traethawd hwn, honna Renan nad oes un pobl neu hil wedi bod mor agos at fodau isfyd natur â'r Celtiaid, sy'n mwynhau perthynas bur ac uniongyrchol â'r byd naturiol yn gyffredinol. I'r perwyl hwn dyfynna'n awgrymog, ond yn ddetholus, o lenyddiaeth Gymraeg yr oesoedd canol.
Mae Renan yn adnabyddus hefyd am ei ddiffiniad o genedl yn Qu'est-ce qu'une nation? (1882). Roedd athronwyr Almaenaidd megis Johann Gottlieb Fichte wedi diffinio cenedl fel "hil" neu grŵp ethnig oedd a nodweddion cyffredin, iaith er enghraifft. Yn ôl diffiniad Renan, yr hyn oedd yn creu cenedl oedd y dymuniad i fyw gyda'i gilydd.
Mae Patrick Sims-Williams ac eraill wedi bwrw amheuaeth ar safbwynt Renan, gan ddadlau bod ei orbwyslais ar bwysigrwydd anifeiliaid i'r Celtiaid yn amlygu agwedd nawddoglyd a threfedigaethol. Dylanwadodd y traethawd ar Matthew Arnold, deiliad cyntaf y Gadair Geltaidd yn Rhydychen ac awdur On the Study of Celtic Literature (1867). Yn achos Arnold, ochr yn ochr â'r magical charm of nature a'r fairy-like loveliness of Celtic nature, ceir y farn ganlynol: 'I must say I quite share the opinion of my brother Saxons as to the practical inconvenience of perpetuating the speaking of Welsh'. Felly gwelir agwedd Brydeinig yng ngwaith Arnold fel y gwelir agwedd Paris-ganolog yn Renan. Cydnabyddir Renan ac Arnold fel dau o sylfaenwyr Astudiaethau Celtaidd modern, ond hefyd fel tarddle sgyrsiau ar 'Geltigiaeth' [Celticism], sy'n cyfateb i drafodaeth a sgyrsiau gan Edward Said yn ei gyfrol ddylanwadol Orientalism (1978). Ar ddiwedd ei oes, daeth yn un o hoelion wyth y 'Dîners celtiques' (Ciniawau Celtaidd).