Wilkie Collins | |
---|---|
Ganwyd | 8 Ionawr 1824 Llundain |
Bu farw | 23 Medi 1889 Llundain |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, newyddiadurwr, nofelydd, dramodydd, bardd-gyfreithiwr, bargyfreithiwr |
Adnabyddus am | The Woman in White, The Moonstone |
Arddull | llenyddiaeth Gothig |
Tad | William Collins |
Mam | Harriet Geddes |
Priod | Martha Rudd, Caroline Compton |
Gwefan | http://wilkiecollins.com |
llofnod | |
Nofelydd Saesneg oedd William Wilkie Collins (8 Ionawr 1824 – 23 Medi 1889). Ganed ef yn Llundain, yn fab hynaf i'r arlunydd enwog, William Collins.
Treuliodd gyfnod yn gweithio fel clerc wedi iddo adael yr ysgol yn 17 mlwydd oed cyn mynychu Lincoln's Inn fel myfyriwr Y Gyfraith yn 1846. Ystyriodd yrfa fel arlunydd ond wedi iddo gyhoeddi llyfr yn son am hanes bywyd ei dad, yn 1850, a'r nofel Antonina, yn 1851, sicrhawyd ei ddyfodol fel awdur llewyrchus. Ni wnaeth Collins briodi, ond bu'n byw a gweddw, Mrs Caroline Graves, o 1858 hyd ei farwolaeth. Hefyd, cafodd dri phlentyn gan wraig ifancach, Martha Rudd; fe'i cadwodd hi mewn sefydliad arall. Roedd Collins yn dioddef o'r gymalwst rhiwmatig (rheumatic gout), math o grydcymalau a'i drodd yn glaf yn ei flynyddoedd olaf. Yn ogystal, magodd gaethiwed at y laudanum a gymerodd i leddfu'r boen.
Llên Lloegr yn y 19eg ganrif |
---|
Llenyddiaeth plant |
Athroniaeth a'r gwyddorau |
|
Mae sawl un o'r farn mai Collins ddechreuodd genre'r nofelau ditectif a mae'r rhan fwyaf o'i weithiau enwocaf yn perthyn i'r symudiad cyffrogarol (sensationalism) a oedd yn boblogaidd ar y pryd. Roedd Collins yn ffrindiau mawr a Charles Dickens, nofelydd amlyca'r cyfnod ym marn llawer.
Yn 2004, agorodd addasiad o nofel enwocaf Collins, The Woman in White, ar lwyfan y Palace Theatre yn Llundain fel sioe gerdd. Cyfansoddwyd y sioe gan Andrew Lloyd Webber ac addaswyd y testun gwreiddiol gan Charlotte Jones a David Zippel.