Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llŷn ac Eifionydd 2023 | |
Enghraifft o'r canlynol | eisteddfod, digwyddiad blynyddol |
---|---|
Yn cynnwys | Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol, Coron yr Eisteddfod Genedlaethol, Y Fedal Ryddiaith, Gwobr Goffa Daniel Owen, Tlws y Cerddor, Gwobr Goffa David Ellis, Gwobr Goffa Llwyd o'r Bryn, Medal Aur am Gelfyddyd Gain, Medal Aur am Grefft a Dylunio, Medal Aur mewn Pensaernïaeth, Ysgoloriaeth W. Towyn Roberts, Medal Syr T.H. Parry-Williams, Dysgwr y Flwyddyn, Medal Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol, Albwm Cymraeg y Flwyddyn |
Lleoliad yr archif | Llyfrgell Genedlaethol Cymru |
Gweithwyr | 18, 17, 14 |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Gwefan | https://eisteddfod.cymru |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gŵyl ddiwylliannol fwyaf Cymru yw Eisteddfod Genedlaethol Cymru, gyda chystadlu mewn llenyddiaeth, cerddoriaeth a drama yn elfen bwysig. Ymhlith y cystadlaethau pwysicaf mae cystadleuaeth am y Gadair am awdl, y Goron am bryddest a'r Fedal Ryddiaith am waith rhyddiaith. Ceir hefyd y Rhuban Glas i'r canwr unigol gorau a chyflwynir Medal Syr T.H. Parry-Williams er 1975 i gydnabod gwasanaeth gwirfoddol nodedig ymhlith pobl ifanc. Er 1952, trefnir a llywodraethir yr Eisteddfod gan Lys yr Eisteddfod Genedlaethol. Yn gyffredinol, bu'r niferoedd sy'n ymweld â hi'n gostwng rhwng 1997 a 2017.
Er bod traddodiad yr eisteddfod yn ganrifoedd oed, ni chynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol gyntaf tan 1861, yn Aberdâr. Daeth y gyfres flynyddol honno i ben oherwydd diffyg cyllid yn 1868. Yn 1880 sefydlwyd Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol a dan nawdd y gymdeithas hon cynhaliwyd Eisteddfod Merthyr Tudful yn 1881 a chynhaliwyd eisteddfod yn ddifwlch wedyn ar wahân i 1914, 1940 a 2020. (Cynhaliwyd hi ar lein yn 2021.)[1]
Roedd Iolo Morganwg wedi sefydlu Gorsedd Beirdd Ynys Prydain yn 1792. Fel y tyfodd yr Eisteddfod Genedlaethol daeth yr orsedd i'w chysylltu fwy-fwy gyda hi, gan gychwyn gydag Eisteddfod Caerfyrddin 1819, nes datblygu yn rhan o seremonïau'r eisteddfod fwy neu lai fel y mae heddiw. Yr orsedd sydd yn gyfrifol am seremonïau cadeirio a choroni'r beirdd yn ogystal â chyflwyno'r Fedal Ryddiaith. Ailwampiodd yr Archdderwydd Geraint Bowen tipyn ar y seremonïau, er enghraifft diddymu Seremoni'r Cymry Ar Wasgar, a dod â'r brodyr Celtaidd i mewn i rai o'r prif seremonïau. Mae aelodau'r orsedd yn rhannu'n dri grŵp, gyda lliw gwahanol i wisg bob un.
Caiff yr Eisteddfod Genedlaethol ei chynnal bob blwyddyn yn ystod wythnos lawn gyntaf mis Awst, yn y de a'r gogledd bob yn ail. Ond ceir Seremoni'r Cyhoeddi tua 13 mis cyn yr Eisteddfod. pryd y bydd Gorsedd y Beirdd a'i chefnogwyr yn gorymdeithio drwy'r dref i Gylch yr Orsedd. Ar ôl y seremoni cyflwynir rhestr o destunau'r Eisteddfod i'r Archdderwydd.
Mae maes yr Eisteddfod yn mesur oddeutu 15 i 18 erw (6 i 7 ha). Ar wahân i'r pafiliwn mawr, bydd hefyd y Babell Len, y Babell Ddawns, Pabell y Cymdeithasau, y Lle Celf; a bydd nifer o stondinau gan gymdeithasau gwirfoddol, megis yr Urdd, Merched Wawr; bydd y pleidiau gwleidyddol ar y maes hefyd a busnesau.
Yn y gorffennol, roedd Saesneg yn rhan o'r gweithgareddau, a chlywid hi hyd yn oed ar lwyfan yr Eisteddfod ei hun. Nododd y cyfansoddiad newydd ym 1952 mai iaith swyddogol yr eisteddfod oedd y Gymraeg yn unig, ac roedd Cynan yn flaenllaw yn y gwaith o gadw'r eisteddfod yn uniaith Gymraeg.
Ymhlith eisteddfodau eraill Cymru mae: Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, Eisteddfod Pantyfedwen, Eisteddfod Powys ac Eisteddfod Môn. Ceir hefyd nifer o eisteddfodau llai ledled Cymru, megis Eisteddfod Pwll-glas.